"We design & build to every requirement & tailored to suit
every budget"

Darryl Thomas - Proprietor

 


We have been on TV on Channel 4's Grand Designs
Click to view at YouTube.

 

Mae Cartrefi Tywi yn gwmni sydd â blynyddoedd o brofiad yn y broses o ddylunio, gwneud / saernïo ac adeiladu fframiau pren o ansawdd arbennig.

Dymuniad Darryl Thomas wrth sefydlu’r cwmni yn ôl ym 1998 oedd creu cwmni annibynnol a fyddai’n cynnig gwasanaeth personol i bob unigolyn.

Mae gennym brofiad o weithio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r grefft. Yn ystod y cyfnod hynny rydym wedi gweld a gwerthfawrogi'r hyn sydd angen i greu’r cartrefi delfrydol.

Yn sgìl hynny, rydym yn ffyddiog ein bod yn perffeithio ar y wybodaeth a’r profiadau hynny sydd gennym. Dangoswn frwdfrydedd ac ymrwymiad i’n cwsmeriaid er mwyn llwyddo i roi gwasanaeth neilltuol â chynnyrch gorffenedig sy’n portreadu safon a gwerth am arian.